Llwch a Llechi [Dust and Slate] will premiere at the Wales Millennium Centre in Cardiff on 13 October as part of Llais festival 2024, tickets are available here.
Llwch a Llechi by composer and multidisciplinary artist Gwen Siôn is a live audio-visual project for concert venues exploring connections between music, landscape, tradition and ritual. Llwch a Llechi will be performed live by 10 musicians from the BBC National Orchestra of Wales, Côr y Penrhyn male-voice choir (one of Wales’ oldest choirs, originally formed in the 1800s for workers from Penrhyn Quarry, Bethesda), and Gwen on live electronics using her own experimental hand-built instruments made from site-specific recycled natural materials (including slate, oak and yew). The project combines elements of experimental electronic music, contemporary orchestral composition, choral composition (specifically informed by North Wales’ working-class tradition of slate quarry choirs), field recordings and moving image including archive footage provided by the Screen and Sound Archive, National Library of Wales.
Llwch a Llechi was created following an extended period of research into North Wales’ slate quarries and takes inspiration from folklore motifs, socio-political histories, industrial heritage and the cultural relationship that exists between music and landscape, and its deeper roots in Celtic oral tradition in Wales. The project seeks to recontextualise tradition through a contemporary lens by using experimental electronic music and contemporary composition techniques. Llwch a Llechi juxtaposes the old and new, in search of ways to preserve cultural practices by finding new approaches to expression and presenting them in spaces where they have not traditionally existed.
Contemporary sound, experimental and electronic music practices often exist in nightclub and art gallery spaces as part of underground music and art scenes; the original quarrymen’s choirs traditionally existed in the workplace, a cappella, and feel rooted in folk tradition; live orchestral music has historically belonged to a more elitist space harder to access for working class rural communities. This project weaves together these rich but disparate musical strands to create an experimental new fusion piece.
The cyclical motion of the breath is a recurrent theme in the work, explored through environmental sounds, electronic textures and extended techniques in both instrumentation and voice. At the core of the work is landscape identity, the mountains and quarries are reflected in the mood, colours and textures throughout the work which also incorporates site-specific field recordings.
The slate landscapes of North Wales represent a complex socio-political history of industrial heritage. The process of extracting raw materials such as slate from the landscape laid the foundations for many working-class towns in Wales including Bethesda, the hometown of both Gwen and Côr y Penrhyn. In these quarrying communities, personal connections to music, language and cultural identity are inextricably bound to the austere landscape. To those who live beneath the slate heaps, in the shadows of the mountains, the quarries have long signified oppression, exploitation, dangerous working conditions, death, illness, poverty, strikes and lockouts.
However, it was also in the quarries that the culture of the ‘caban’ evolved - a small hut where workers would take their break and gather to sing, recite poetry, make tools, carve designs, debate politics and tell stories, a creative refuge where landscape, craft and music met to provide a moment of sanctuary from the extreme dangers faced as part of daily working life. Slate quarry choirs were born in these spaces and the power of engaging in the collective act of choral singing helped form strong communities. Thinking about singing in relation to the breath and the positive impact of singing on both the mental and physical health and wellbeing of these communities is particularly poignant in view of the high levels of air pollution, respiratory diseases and subsequent deaths which were and continue to be such a risk for many living and working in slate quarrying areas.
Llwch a Llechi is generously supported by Arts Council Wales, Sound UK, Ty Cerdd, Sound and Music and PRS Foundation.
Cynhelir première Llwch a Llechi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 13 Hydref fel rhan o wyl Llais 2024, mae'r tocynnau ar gael yma.
Mae Llwch a Llechi yn broject clyweledol byw ar gyfer neuaddau cyngerdd gan y cyfansoddwr a’r artist amlddisgyblaethol Gwen Siôn, sy’n archwilio cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, tirwedd, traddodiad a defod. Caiff Llwch a Llechi ei berfformio’n fyw gan ddeg cerddor o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Côr y Penrhyn (un o gorau hynaf Cymru a sefydlwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan weithwyr Chwarel y Penrhyn, Bethesda), a Gwen ar electronig byw yn defnyddio ei hofferynnau arbrofol ei hun sydd wedi eu creu â llaw ganddi o ddeunyddiau naturiol, safle-benodol wedi’u hailgylchu (gan gynnwys llechi, derw ac yw). Mae’r project yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth electronig arbrofol, cyfansoddi cerddorfaol cyfoes, cyfansoddi corawl (wedi’i seilio’n benodol ar draddodiad dosbarth gweithiol corau meibion chwareli’r Gogledd), recordiadau maes a delweddau symudol, gan gynnwys lluniau archif trwy gydweithrediad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Cyfansoddwyd Llwch a Llechi yn dilyn cyfnod o ymchwil helaeth i chwareli llechi’r Gogledd a chafodd Gwen ei hysbrydoli gan fotiffau llên gwerin, hanesion cymdeithasol-wleidyddol, y dreftadaeth ddiwydiannol a’r cydberthynas diwylliannol rhwng cerddoriaeth a thirwedd, a gwreiddiau dyfnach hynny yn nhraddodiad llafar Celtaidd Cymru. Mae’r project yn ceisio ail-gyd-destunoli traddodiad trwy lens cyfoes gan ddefnyddio cerddoriaeth electronig arbrofol a thechnegau cyfansoddi cyfoes. Mae Llwch a Llechi yn cyfosod yr hen a’r newydd ac yn archwilio ffyrdd o warchod arferion diwylliannol trwy ddod o hyd i ddulliau newydd o’u mynegi, a’u cyflwyno mewn mannau lle nad ydynt wedi bodoli yn draddodiadol.
Mae ymarfer cyfoes mewn sain a cherddoriaeth arbrofol ac electronig yn aml i’w glywed mewn clybiau nos ac orielau celf fel rhan o fynegiant cerddorol neu gelfyddydol tanddaearol; yn y gweithfeydd y canai corau gwreiddiol y chwarelwyr yn draddodiadol, yn a cappella, a gellir synhwyro bod eu gwreiddiau yn y traddodiad gwerin; yn hanesyddol mae cerddoriaeth gerddorfaol fyw wedi perthyn i leoliadau mwy elitaidd yr oedd yn anodd i gymunedau gwledig dosbarth gweithiol eu cyrchu. Mae’r project hwn yn gweu’r edafedd cerddorol cyfoethog ond annhebyg hyn ynghyd i greu darn sy’n asiad newydd arbrofol.
Mae symudiad cylchol yr anadl yn thema reolaidd yn y gwaith, a chaiff hynny ei archwilio trwy synau amgylcheddol, gweadeddau electronig a thechnegau estynedig mewn offeryniaeth yn ogystal â llais. Yn greiddiol i’r gwaith mae hunaniaeth y dirwedd, a chaiff y mynyddoedd a'r chwareli eu hadlewyrchu gan naws, lliwiau a gweadeddau trwy gydol y darn, sydd hefyd yn ymgorffori recordiadau maes safle-benodol.
Mae tirweddau llechi’r Gogledd yn cynrychioli hanes cymdeithasol-wleidyddol cymhleth eu treftadaeth ddiwydiannol. Gosododd y broses o echdynnu deunyddiau crai fel llechi o'r dirwedd sylfeini nifer o drefi dosbarth gweithiol Cymru, gan gynnwys Bethesda, tref enedigol Gwen a chartref Côr y Penrhyn. Yn y cymunedau chwarelyddol hyn mae cysylltiadau personol â cherddoriaeth, iaith a hunaniaeth ddiwylliannol wedi'u cydblethu yn annatod â'r dirwedd arw. I'r rhai hynny sy'n byw o dan y tomenni llechi, yng nghysgod y mynyddoedd, mae'r chwareli wedi hen ddynodi gormes, ecsploetiaeth, amodau gwaith peryglus, marwolaeth, salwch, tlodi, streiciau ac argyfyngau cau allan.
Serch hynny, yn y chwareli y datblygodd diwylliant y ‘caban’ - cwt bach lle byddai’r chwarelwyr yn cymryd egwyl o’u gwaith ac yn ymgynnull i ganu, adrodd barddoniaeth, cynhyrchu offer llaw, cerfio dyluniadau, trafod gwleidyddiaeth y dydd ac adrodd straeon - lloches greadigol lle byddai tirwedd, crefft a cherddoriaeth yn cydgyfarfod i gynnig ennyd o noddfa rhag y peryglon eithafol a wynebai’r gweithwyr yn eu bywyd gwaith bob dydd. Ganed corau’r chwareli llechi yn y cabanau a chyfrannodd y nerth a ddeuai o gymryd rhan yn y weithred o gydganu corawl at atgyfnerthu cymunedau cryf. Mae meddwl am ganu mewn perthynas â'r anadl ac effaith gadarnhaol canu ar iechyd a lles meddyliol a chorfforol y cymunedau hyn yn arbennig o ingol o ystyried y lefelau uchel o lygredd aer, clefydau anadlol a marwolaethau dilynol a oedd, ac sy'n parhau i fod yn gymaint o berygl i nifer sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau chwarelyddol.
Mae Llwch a Llechi wedi derbyn cefnogaeth hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sound UK, Tŷ Cerdd, Sound and Music a’r PRS Foundation.